Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Wrth ein bodd yn beicio

Yma ym Môn mae croeso i feicwyr. Rydym yn hoffi’r ffaith eu bod yn cadw’n ffyrdd yn dawel ac yn ddi-draffig a’r ffordd maen nhw’n dod yn rhan o’n cefn gwlad.
 
Ac mae’n ymddangos bod beicwyr yn ein hoffi ninnau. Dydyn nhw ddim yn gallu cadw draw. Dim ond naw Llwybr Beicio Cenedlaethol sydd ym Mhrydain gyfan - mae dwy ohonynt yn croesi Ynys Môn.

Mae Llwybr Cenedlaethol 8 o Gaerdydd a Llwybr Cenedlaethol 5 o Reading yn mynd ar hyd ein lonydd ac yn gorffen yng Nghaergybi. Ac rydym wedi cynllunio pedair cylchdaith ei hunain sy’n cysylltu â hwy.

Nid rhifau sydd arnynt, ond enwau. Nico, Gïach, Hebog a Thelor. Mae pob un wedi ei henwi ar ôl math o aderyn y byddech chi’n disgwyl ei weld ar eich taith trwy ein gwlyptiroedd ac yn ein gwrychoedd.

Rydym hefyd wedi treulio pum mlynedd a gwario £2 filiwn ar greu lôn syth Lôn Las Cefni, sy’n cysylltu â’r ddwy ffordd genedlaethol.  Mae’n ddi-draffig ac yn gymharol wastad yr holl ffordd, am 13 milltir, ac mae'n denu nifer o deuluoedd.

“Rydych chi’n gweld cymaint o fywyd gwyllt - hyrddyn llwyd yn bwydo yn yr afon, glas y dorlan ac elyrch yn hedfan,” meddai Richard Owen o Langefni. “Mae’n heddychlon braf. Does dim traffig a gallwch adael i’r plant fynd yn rhydd.”

Er bod rhwydwaith o lonydd beicio ar hyd yr ynys gyfan, roedd un darn o’r jig-so ar goll - arfordir y gogledd. A gan fod hon yn un o ardaloedd tawelaf a harddaf Ynys Môn, roedd hynny’n resyn.

Felly, rydym wedi creu cylchdaith newydd sbon 34 milltir. Dyma Lwybr 566 yn ôl y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, ond mae arwyddocâd hanesyddol i’r enw yr ydym ni wedi ei rhoi arni, sef Lôn Las Copr.
Nid yn unig mae golygfeydd trawiadol o’r môr i’w gweld (chwiliwch am y llamhidyddion ar hyd y morlin creigiog), mae hefyd yn mynd â chi ar daith trwy hanes Môn.

Lleoedd fel Swtan, bwthyn to gwellt hynaf yr ynys. Melin Llynnon, lle gallwch brynu bag o flawd cyflawn organig  wedi ei falu yn yr unig felin wynt sy’n dal i droi yng Nghymru, a’r “Deyrnas Gopr” ym Mynydd Parys a Phorth Amlwch fu’n ysbrydoliaeth i enwi’r llwybr.

Mae cymaint o ryfeddodau i’w gweld, efallai bydd yn rhaid i chi bedlo ychydig yn gynt i’w gweld i gyd.

Gweler hefyd

Crwydro Môn - Pecynnau gwyliau cerdded a beicio  

Hefyd fedrwch logi beic neu caiac gan busnes lleol yn Biwmaris wrth fynd ar ei wefan Isle of Anglesey Bike & Kayak Hire neu cysylltu ag 07748872295 am fwy o wybodaeth.

Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

gwybodaeth ddefnyddiol

I weld rhestr a map o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn, gweler safle we Cyngor Sir Ynys MÔn - toiledau cyhoeddus

Gweler hefyd Llwybrau beicio cefn gwlad Ynys Môn am fapiau, teithiau a syniadau defnyddiol.

Crwydro Môn - Gwyliau Beicio

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :