Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Chwilio am y pâl

Teithiodd Linda Precious yr holl ffordd o Southend yn Essex i weld un aderyn môr yn arbennig - y pâl. Nid yw'n cael llawer o lwc nes bod Dave Bateson o'r RSPB yn pwyntio i lawr i'r môr islaw ac yn ei chynghori i wylio am eu bochau gwyn unigryw a'u boliau gwyn.

"Mae'n union beth daethais yma i'w weld. Mae'n un aderyn roeddwn heb ei weld erioed ac roeddwn yn awyddus i'w gweld - maent mor ddel " meddai Linda. Mae Dave a'i dîm yn treulio llawer o amser yn dod o hyd i balod ar gyfer y 35,000 o ymwelwyr y flwyddyn i Ynys Lawd, ond o ran cadwraeth, eu haderyn mwyaf pwysig yw'r frân goesgoch. Mae'n aelod o deulu'r frân, gyda bil coch nodedig a choesau coch, ac yn un o'r adar mwyaf prin ym Mhrydain.

Ceir ar Ynys Lawd naw o barau bridio'r frân goesgoch, dwy'r cant o boblogaeth y DU. Mae'r warchodfa gyfan a rhannau helaeth o rostir yn cael ei redeg ar eu cyfer a'u hangen i archwilio'r ddaear am gynrhon a chwilod.
Mae'r gwylogod a llursod sy'n dorf ar y silffoedd creigiau yn yr haf yn wir adar môr. Maent yn casáu bod ar y tir ac ond yn dod i'r lan i ddodwy eu hwyau. Hyd yn oed cyn y gall y cywion hedfan, maent yn hyrddio eu hunain dros 150 troedfedd drwy'r awyr, i lawr i'r dŵr ac yna'n padlo allan i'r môr agored gyda'u rhieni. Mae'n olygfa wych i'w weld.

Fel arfer, mae nythod adar y môr yn cael eu cuddio o'r golwg, ond yn Ynys Lawd, gallwch weld y sioe gyfan o Dwr Elin y RSPB Seabird Centre, sydd wedi ei leoli ar ymyl y clogwyn o flaen nythod yr adar cwerylgar.

Os nad ydych yn gallu gweld digon gyda'r llygad noeth, gallwch fenthyg ysbienddrych gan y ganolfan, syllu trwy delesgop neu wylio delweddau byw o dri chamera gwahanol - un o'r camerâu yn pwyntio at nyth bran coesgoch mewn ogof môr anhygyrch . "Byddwch yn cofio'r eiliadau hyn am flynyddoedd i ddod," meddai Dave Bateson. "Rydym yn ceisio agor llygaid pobl at y rhyfeddodau sydd yma".

Mae llawer o fywyd gwyllt Ynys Môn yr un mor wych: cymerwch Coedwig Niwbwrch er enghraifft, ble gewch weld, os ydych yn lwcus, gipolwg o wiwer goch brin a phrofi'r clwydfan cigfran ail - fwyaf yn y byd.

Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

dolenni diddorol

Gweler isod am fanylion rhai o'r amrywiaeth o lefydd i wylio adar ar Ynys Môn

RSPB Malltraeth Marsh Wetland Reserve

Gwarchodfa Lleol Nant y Pandy

Parc Gwledig y Morglawdd Caergybi

Coedwig Niwbwrch

Gwarchodfa Natur Cenedlaethol Ynys Llanddwyn

Gwarchodfa Natur Clogwynni Ynys Lawd

RSPB Seabird Centre

oriau agored

Mae warchodfa Ynys Lawd yn agored drwy'r flwyddyn
Twr Ellin yn agored o Pasg i ganol mis Medi
10yb - 5.30yh
Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :