Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Goleudy Ynys Lawd

Llwybr Arfordirol Ynys Môn

Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn datblygu llwybr hirbell sy’n dilyn cryn dipyn o forlin yr ynys. Mae’r llwybr yn addas ar gyfer cerddwyr yn bennaf, ond fel ellir mwynhau rhai rhannau ar gefn beic neu geffyl.

Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) sy’n cynnwys 95% o’r arfordir. Mae’n pasio drwy dirwedd sy’n cynnwys cymysgedd o dir fferm, rhostir arfordirol, twyni, morfa heli, blaendraethau, clogwyni ac ambell i boced fach o goetir. Ymhlith y rhain y mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG).

Ffeil ffeithiau

Hyd: 125 milltir / 200km
Esgyniad / disgyniad dros y llwybr cyfan: 4,174 medr / 13,695 troedfedd
Man cychwyn swyddogol: Eglwys Sant Cybi, Caergybi  (cyfeirnod grid SH247 826)
Cyfartaledd nifer y dyddiadau i'w gwblhau'r daith: 12
Trefi / pentrefi yn uniongyrchol ar y llwybr: 20
Oes modd cwblhau pob rhan yn defnyddio cludiant cyhoeddus: Oes

Uchafbwyntiau

Mynydd Twr (y pwynt uchaf ar yr ynys), goleudy a chlogwyni môr Ynys Lawd, bwâu môr ym Mwa Gwyn (Rhoscolyn), Ynys y Fydlyn (Pen Bryn yr Eglwys), a Phorth Wen, Ynys Llanddwyn, Pont y Borth, Pont Britannia, eglwysi Llangwyfan (Aberffraw) Llanbadrig a Sant Tysilio (Porthaethwy), Gwarchodfa Natur Cemlyn, a Thrwyn a Phriordy Penmon.  Hefyd Brain Coesgoch, Hebogau Tramor, Gwenoliaid y Môr, Llamhidyddion, Morloi a blodau gwyllt y gwanwyn.

Cysylltiadau enwog

Fe fu Oliver Cromwell yn aros yn y ‘George & Dragon’ ym Miwmares ym 1643.  Y  Morrisiaid o Bentre-Eiriannell, Dulas yn y 1700au.  Fe ysgrifennodd Charles Dickens ddyddiadur digwyddiadau am ddryllio’r ‘Royal Charter’ ym Moelfre, 1859.  Bu C Tunnicliffe yn byw ac yn darlunio bywyd gwyllt ym Malltraeth (1950-1979).  Bu Kyffin Williams (Artist) yn byw ar Afon Menai.  Pentref enwog; Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch.

Cyfeillion y Llwybr Arfordirol

Gwobrwyir unrhyw un sydd wedi cwblhau'r 125 milltir o'r Llwybr arfordirol gyda bathodyn arbennig a thystysgrif yn adnabod y gamp. I hawlio eich bathodyn llenwch y ffurflen arlinell ar safle we Cyfeillion y Llwybr Arfordirol.

Dolenni defnyddiol

Dilynwch y dolenni isod am ragor o wybodaeth am y cyhoeddiadau unigol.
Llyfryn Arweiniad i Lwybr Arfordirol Ynys Môn
Llwybr Arfordirol Ynys Môn: Arweinlyfr Swyddogol
Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

manylion cyswllt

Byddwn yn falch o glywed gennych os oes gennych ymholiadau, awgrymiadau neu gwybodaeth am y Llwybr Arfordirol:

Prosiect Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Adran yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol
Uned Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfa'r Sir
Llangefni
LL77 7TW

Ffôn: +44 (0)1248 752300

Cylchgrawn Swn y Môr
Lawr lwythwch Swn y Mór. Cylchgrawn swyddogol yr AHNE a'r Llwybr Arfordirol.

gwybodaeth ddefnyddiol

safleoedd gwe:

Crwydro Môn

Cyngor Sir Ynys Môn - AHNE

Cerddwyr Ynys Môn

Celticos

I weld rhestr a map o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn, gweler safle we Cyngor Sir Ynys Môn - toiledau cyhoeddus

Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :