Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma

Parc Gwledig Morglawdd Caergybi

Llyn Llwynog

Am ddiwrnod difyr yng nghefn gwlad hardd Ynys Môn, beth am ymweld â Pharc Morglawdd Caergybi? Mae wedi'i leoli wrth ymyl tref a phorthladd Caergybi - y porth celtaidd i Iwerddon.

Mae'r parc yn rhoi blas ar holl brydferthwch, hanes ac apêl naturiol Ynys Môn - a hynny o fewn un safle. Mae gan y parc lawer i'w gynnig:

Arddangosfeydd - gallwch ganfod mwy am fywyd gwyllt a hanes diwydiannol y parc gwledig yn y ganolfan wybodaeth ac yn yr arddangosfeydd awyr agored.
Llyn Llwynog - lle gallwch chi bysgota a gwylio'r cychod bach neu ymlacio yng nghwmni'r ieir dŵr a'r hwyaid gwylltion.
Yr Arfordir Creigiog - mwynhewch y golygfeydd trawiadol wrth grwydro yn yr eithin a'r grug. .

Bywyd gwyllt
- gwyliwch y brain coesgoch a'r hebogau tramor wrth iddyn nhw hedfan uwchben yr hen chwarel.

Cerdded
- mae yma amrywiaeth o lwybrau i gerddwyr ar bob lefel, gan gynnwys mynediad i Mynydd Twr ac Ynys Lawd.
Fflag Gwyrdd
Cafodd Parc Gwledig Morglawdd Caergybi ei agor ym 1990 ac mae wedi'i leoli ar safle hen chwarel. O'r chwarel hon y cafwyd y cerrig i adeiladu morglawdd Caergybi sy'n 2.3km o hyd - y morglawdd hiraf yn Ewrop gafodd ei adeiladu rhwng 1846 a 1873. Mae'r parc yn cael ei reoli gan Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ynys Môn.

Llwybr Clywedol Parc Gwledig y Morglawdd

Cymerwch daith o gwmpas Parc Gwledig y Morglawdd gyda’ch arweinydd Alun. Gallwch lawrlwytho’r taith glywedol i’ch peiriant MP3 neu wrando rwan ar-lein. Dilynwch y ddolen i safle gwe Cyngor Sir Ynys Môn.

Chwilio am beth i'w wneud
Chwilio am lefydd i aros
Chwilio am Digwyddiadau
cofrestrwch am cylchlythyr
Adborth - eich barn
Archebu cyfeirlyfr

manylion cyswllt

Caergybi
Map OS 114: SH2283
Ffôn: +44 (0)1248 752428
neu +44 (0)1407 760530

amseroedd agored

Dim cyfyngiadau mynediad
Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :