|
Lleoliadau Amrywiol
Gwe:
02/06/2012 09:30
02/06/2012 12:30
 |
|
|
|
Gwyl Cerdded Ynys Môn: Taith 2 - Taith Hanesyddol a chyfle i Wylio Adar o amgylch Llynnoedd y Fali
Cyfle i wylio adar a chael taith hanesyddol o amgylch Llyn Cerrig Bach lle daeth W O Roberts, tirmon lleol y Weinyddiaeth Amddiffyn, o hyd iarteffactau o’r Oes Haearn ym 1943. Roedd y rhain yn cynnwys cadwyn caethweision, arfau, a rhannau o gerbyd. Bydd ei ferch, sy’n hanesydd lleol, yn rhoi sgwrs ddiddorol am yr arteffactau wrth y Llyn ar ddechrau’r daith. Mae’r ardal hon hefyd yn un o’r gwarchodfeydd a’r safleoedd hanesyddol pwysicaf ar Ynys Môn a bydd eich arweinydd, sy’n warden RSPB, yn esbonio sut mae’r llynnoedd yn cael eu rheoliar gyfer diogelu adar gwyllt ymfudol a bywyd gwyllt eraill sy’n byw yn y warchodfa hon.
Man cychwyn: Maes Parcio RSPB, RAF y Fali; SH 312 765
Hyd a lefel y daith: 2 filltir, 2 i 3 awr, hawdd
Arweinwyr: Eflyn Owen-Jones (yn Llyn Cerrig Bach) ac Ian Simms
Prisiau: Ffi: £4.00 yr un
|