Castell Biwmares yn yr hydref
Syrffio
Cwpwl yn gafael dwylo
Syrffio ceit yn Rhosneigr
Cerbwd ar y traeth
Ynghylch Ynys Môn
Beth iw wneud
Digwyddiadau
Teithio yma
Rydym yn meddwl am Ynys Môn fel ynys sy'n cynnig bob math o weithgareddau. Os treuliwch chi ychydig o ddiwrnodau yma fe welwch fod hynny’n wir. 

Ond mae pobl yn gallu anghofio mai ynys yw hon – y fwyaf oddi ar arfordir Cymru, fel y mae’n digwydd – a hynny oherwydd ei bod mor hawdd croesi yma.

Ond nid felly’r oedd hi yn y gorffennol. Cyn 1826, pe byddech chi’n sefyll ar y tir mawr ac yn edrych draw ar yr ynys, byddai cryn her yn eich wynebu.

Yr unig ffordd i groesi’r Fenai oedd mewn cwch neu pan fyddai’r llanw ar drai. Ac roedd yr afon lanwol hon, gyda’i cherrynt cryf, ei throbyllau a’i chreigiau cudd, yn un o’r rhai mwyaf peryglus ym Mhrydain.

Yna daeth Thomas Telford i’r adwy. Adeiladodd Bont y Borth gan gysylltu dwy ran o’r A5 ar ei thaith hir o Lundain i Gaergybi. Roedd y bont yn arbed naw awr.

Mae’r bont grog haearn yn dal i fod yn destun rhyfeddod. Dyma’r bont gyntaf yn y byd i gael ei chodi ar y fath raddfa. Rhwng y tyrrau calchfaen mae 16 o gadwyni enfawr, sy’n cynnal rhychwant o 176 metr. Mae'n ddigon uchel i longau hwylio 100 troedfedd fynd oddi tani’n ddiogel.

Cyflawnodd Telford gampwaith. Ond 24 mlynedd yn ddiweddarach aeth Robert Stephenson ati i adeiladu Pont Britannia, oedd yn cynnwys tair miliwn o rybedion.
Dim ond milltir sydd rhwng y ddwy bont. Pa un bynnag y byddwch chi’n ei dewis, cewch olygfa wych o’r llall. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ewch i Arddangosfa’r Pontydd ym Mhorthaethwy.

Mae miloedd o bobl bob blwyddyn yn gwylio eu ffilmiau, yn astudio eu lluniadau ac yn rhyfeddu at eu harteffactau. Gallwch hyd yn oed fynd ar daith dywys o gwmpas y pontydd a’r glannau hanesyddol. 

Diolch i Telford a Stephenson, mae'n hawdd cyrraedd Ynys Môn, mewn car neu ar drên. Mae'n daith o ddwy awr mewn car o Fanceinion a llai na thair awr a hanner o Lundain ar y trên.

Does dim rhyfedd bod pobl yn anghofio mai ynys yw hon. Mae golygfa well ohoni o’r awyr – ynys sydd wedi ei hamgylchynu gan Fôr Iwerddon sydd ond 60 munud i ffwrdd o Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.

Ac wrth gwrs gallwch ddod yma mewn cwch. Dim ond dwy awr i ffwrdd mae Dulyn. Ac mae llongau pleser o borthladdoedd cyn belled â Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd a hyd yn oed America’n galw yma bellach.  
Hawlfraint cynnwys a delweddau © 2012 Cyngor Sir Ynys Môn :