Strap line image
A  A  A
Ynghylch Ynys MônBeth i'w wneudBle i ArosDigwyddiadauTeithio Yma

Chwifio'r faner

Benllech

Yma ar Ynys Môn, mae gennym lawer o draethau, mae gennym draethau sy'n ennill gwobrau hefyd. Wedi'r cyfan, byddech yn disgwyl ynys gyda 125 o filltiroedd o arfordir i gynnig cryn nifer o'r rheini.

Yn 2009, cafodd dim llai na 26 eu cydnabod gan gyrff amgylcheddol perthnasol, gyda chwe thraeth yn cyrraedd y wobr uchaf – y fanner las. Dyna chwarter o'r cyfanswm ar gyfer Cymru gyfan.

Mae'n rhaid bodloni naw ar hugain o feini prawf gwahanol er mwyn sicrhau'r Faner Las. Maent yn cynnwys ansawdd y dŵr, diogelwch a'r amgylchedd. Nid bod angen i chi wybod yr holl fanylion hyn pan fyddwch yn torheulo neu hyd i'ch gliniau mewn pwll creigiog. Ond mae'n galonogol iawn, yn enwedig os oes gennych blant.

Yn ystod yr haf, mae gan lawer o'n traethau dîm o wardeniaid ymroddedig sy'n helpu gyda diogelwch ar y traeth, ac yn delio gydag unrhyw ddamwain bychan.

Ar draeth cyfeillgar Benllech, neu ar Draeth Bychan gallwch hyd yn oed gael cipolwg o'n gweithredwr sgïo jet yn patrolio'r dyfroedd.

Mae ein jet sgi yn cynnig sicrwydd i bobl," meddai'r gyrrwr, Henry Griffiths. "Gallwn gynnwys yr ardal gyfan yn gyflym iawn arno ac mae pobl yn dweud wrthym ei fod yn dda gweld wardeniaid allan ar y dŵr."

Pobl fel Jan Dejong o Breston, sy'n ymweld ag Ynys Môn am y tro cyntaf gyda'i wraig Debbie a'i blant Sadie (7), Dylan (5) a Jasmine (2), sydd yn brysur yn claddu ei gilydd yn y tywod.

"Mae wedi bod yn wych. Rwyf wedi mwynhau," meddai Jan. "Mae'r wardeiniaid traethau yn gwneud popeth a allant i helpu, ac rydym eisoes yn edrych ymlaen at ddod yn ôl." Fe fydd ganddo ddigon o draethau i ddewis - baeau tywodlyd ysgubol Niwbwrch a Llanddona, traeth sy’n boblogaidd â theuluoedd Bae Trearddur gyda'i ddau draeth Baner Las neu’r paradwys i serfiwr barcud a gwynt yn Rhosneigr.

Yn ystod ei yrfa, mae Warden John Williams wedi teithio o amgylch rhan fwyaf o arfordir Môn. "Mae gennym rywbeth i siwtio pawb o faeau bychan i gildraethau creigiog a thraethau tywodlyd hir. Mae gennym hyd yn oed draeth gyda choedwig yn Llanddwyn".

Am gyfyngiadau gweler gwefan Cyngor Sir Ynys Môn - cyfyngiadau cŵn ar draethau Môn.

gwybodaeth ddefnyddiol

Am wybodaeth ar gyfyngiadau cŵn ar draethau gweler Cyngor Sir Ynys Môn - cyfyngiadau cŵn ar draethau Môn

I weld rhestr a map o doiledau cyhoeddus ar Ynys Môn, gweler safle we Cyngor Sir Ynys Môn - toiledau cyhoeddus

Gwelir gwefan y Blue flag (Saesneg yn unig) i weld rhetr lawn o'r traethau sydd wedi derbyn gwobrau

Cadwch ein traethau'n lân gydag awgrymiadau o gwefan Cadwch Gymru'n Daclus 

Gwelch awgrymiadau sut i fod yn ddiogel yn y dŵr ar wefan River and sea sense - gwybodaeth diogelwch gweithgareddau dŵr

 
 

Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni. Ynys Môn. LL77 7TW. Ffôn: (01248) 750057. Ebost: twristiaeth@ynysmon.gov.uk
Hawlfraint Cynnwys a Delweddau © 2009
cymorth : hygyrcheddgwadiad : map y safle : polisi preifatrwydd : canolfannau croesogwybodaeth defnyddiol : adborth